AACD


 



Cliciwch yma i ddadlwytho'r ffurflen gais


Cynnwys y cwrs

  • Ennill gwybodaeth drwyadl o'r Beibl
  • Astudio athrawiaeth sylfaenol â'i pherthynas â chynnwys y cwrs
  • Deall cyfraniad yr Eglwys i'r byd heddiw
  • Natur gweinidogaeth fugeiliol
  • Mathau ac arddulliau o addoli
  • Pregethu a gweinidogaeth gair Duw
  • Hyfforddi personol trwy'r flwyddyn



Bydd y cwrs yn cynnwys

  • Elfen o weithgaredd awyr agored
  • Encil tri diwrnod
  • Cymryd rhan mewn cenhadaeth blwyfol
  • Tri thymor o ryw 12 wythnos yr un yn dechrau yng nghanol Mis Medi
  • Fel rheol bydd wythnos yn cynnwys dau ddiwrnod o waith dosbarth, dau ddiwrnod o waith ymarferol ac un diwrnod o astudio.



Hyfforddiant ymarferol

  • Gweithio gyda myfyrwyr a phlant
  • Ymweld â chleifion yn yr ysbyty
  • Arsylwi rhaglen adferiad
  • Profiad gwaith mewn cartrefi preswyl
  • Ymweliadau bugeiliol
  • Gwaith efengylu
  • Gweinyddiaeth eglwysig
  • Gweinidogaeth i ymwelwyr
  • Lleoliad mewn eglwys

Mae’r academi mewn partneriaeth ag Eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth, yn cynnig cwrs ymarferol dros gyfnod o flwyddyn yn arwain at Dystysgrif mewn Gweinidogaeth Fugeiliol.  Os ydych yn chwilio am gwrs sydd â phwyslais pendant ar hyfforddiant ymarferol, dyna'r cwrs i chi.


Pwy all wneud cais?

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unrhyw un sydd yn byw yng Nghymru, gan gynnwys pobl ifanc ynghyd â phobl yn hyn.  Rhaid eu bod yn Gristnogion sydd yn cydsynio â Datganiad Ffydd y Gynghrair Efengylaidd.


Ffioedd

Ffi sylfaenol y cwrs £1200

Sut i wneud cais?

Ffurflenni cais oddi wrth:

Mrs. Margaret Rees

Ysgrifennydd Dderbyn

d/o Eglwys Sant Mihangel
Maes Lowri
Aberystwyth
SY23 2 AU

Cyfeiriad e-bost  margaret.rees@btopenworld.com




 
 

Back to Top of Page




If you are having difficulty viewing this page or have comments and feedback please contact the
webmaster